Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 3 Hydref 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 15:05 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees (Cadeirydd) Leighton Andrews Rebecca Evans William Graham Elin Jones Darren Millar Lynne Neagle Gwyn R Price Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Paul Hollard, Rhaglen De Cymru Dr Andrew Goodall, Rhaglen De Cymru Hamish Laing, Rhaglen De Cymru Yr Athro Peter Donnelly, Deoniaeth Cymru Dr Helen Fardy, Deoniaeth Cymru Dr Jeremy Gasson, Deoniaeth Cymru Yr Athro Michael Harmer, Y Fforwm Clinigol Cenedlaethol |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Helen Finlayson (Ail Clerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Stephen Boyce (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Kirsty Williams ar gyfer rhan gyntaf sesiwn y bore. Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar ar gyfer sesiwn y prynhawn.
2 Cynlluniau i Ad-drefnu Gwasanaethau Byrddau Iechyd Lleol - Cynllun De Cymru: Rhaglen De Cymru
2.1 Ymatebodd y cynrychiolwyr o Raglen De Cymru i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
2.2 Gofynnodd y Pwyllgor i Raglen De Cymru gyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor am y ffordd y mae pob bwrdd iechyd lleol unigol wedi asesu ac ystyried effaith ariannol cynlluniau ad-drefnu de Cymru.
3 Cynlluniau i Ad-drefnu Gwasanaethau Byrddau Iechyd Lleol - Cynllun De Cymru: Deoniaeth Cymru a’r Fforwm Clinigol Cenedlaethol
3.1 Ymatebodd y cynrychiolwyr o Ddeoniaeth Cymru a’r Athro Harmer o’r Fforwm Clinigol Cenedlaethol i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu i Raglen De Cymru i ofyn a fyddai’r dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y Fforwm Clinigol Cenedlaethol ar gyfer ymgynghoriad y Rhaglen yn cael ei rhyddhau’n gyhoeddus ar ôl i Fwrdd y Rhaglen gyfarfod ar 22 Hydref.
3.3 Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am syniad o amserlen Llywodraeth Cymru ar gyfer ymateb yn ffurfiol i ganlyniad Adolygiad Greenaway, sy’n ystyried strwythur addysg a hyfforddiant meddygol ôl-radd, sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd (The Shape of Training Review).
4 Papurau i’w nodi
4.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.
4.1 Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru): Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
4a.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru): Trafodaeth ar y drefn o ystyried trafodion Cyfnod 2
6.1 Trafododd y Pwyllgor y drefn o ystyried trafodion ar gyfer Cyfnod 2, a chytuno arni mewn egwyddor.
7 Trafodaeth ar waith allgymorth ar yr ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru
7.1 Trafododd y Pwyllgor ei ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru.
8 Paratoi ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2014-15
8.1 Er mwyn paratoi ar gyfer y broses o graffu ar Gyllideb Ddrafft 2014-15, cynhaliodd y Pwyllgor grŵp trafod gyda chynrychiolwyr o grwpiau rhanddeiliaid perthnasol.